Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto pan fydd plantos bach a mawr yn holi’r cwestiwn hollbwysig hwnnw:
“Pwy sy’n dŵad dros y bryn?”
Mae Bragdy’r Beirdd yn y gorffennol wedi gallu ateb y cwestiwn hwn gyda llu o enwau beirdd a cherddorion o fri, ac nid yw eleni’n eithriad.
Llun trwy Creative Commons: Kevin Dooley http://ift.tt/1ErgdzE
Byddwn yn croesawu neb llai na Phrifardd y Goron Eisteddfod Genedlaethol 2014, Guto Dafydd. Bardd ifanc, sydd heb amheuaeth yn ddigon ifanc i fod yn fardd ifanc o hyd! Mae wedi bod yn prysur glera o amgylch Cymru ers gwisgo’i Goron, ac mae newydd lansio ei gyfrol gyntaf o gerddi, Ni Bia’r Awyr.
Ferl arfer, bydd Beirdd y Bragdy yn ei morio hi, a Gwennan Evans ac Anni Llŷn yn eu plith.
Hefyd bydd modfeddi mwyn o feinyl melfedaidd yn cael eu troelli gan DJ Carl Morris.
Parti Nadolig Bragdy’r Beirdd yn cyflwyno…
Guto Dafydd
Beirdd y Bragdy
DJ Carl Morris
8PM 11 Rhagfyr 2014
Canton Sports Bar
Caerdydd
Mynediad: £3
http://ift.tt/1wRbx5E
Source:
http://ift.tt/1ErgdzK